Mae Cymorth Cymru yn gweithredu fel llais y sector gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi, deddfwriaeth ac arferion sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Mae ein rhwydweithiau yn hanfodol i waith Cymorth ac yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â’n haelodau. Maent yn darparu lleoedd i’n haelodau gael diweddariadau polisi allweddol, rhannu eu barn a’u profiadau, dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth, llywio ein hymgyrchoedd, clywed gan siaradwyr allanol, a rhannu arferion da.