Heddiw, mae Canghellor y DU wedi cyhoeddi £180 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel rhan o Ddatganiad y Gwanwyn.
Mae Cymorth Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu swm ychwanegol o £16.7 miliwn* i’r Grant Cymorth Tai i osgoi argyfwng ariannu fydd yn arwain at wasanaethau’n cael eu gorfodi i gau neu leihau eu capasiti.
* Mae hyn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan wasanaethau i’r digartref a chymorth tai y bydd y gost o’u cyflenwi’n codi o 10.1% yn 2023/24.
Mae data a gasglwyd gan ddarparwyr cymorth digartrefedd a thai yn ystod y 3 mis diwethaf yn dangos y canlynol:
- Mae 93% o’r darparwyr gwasanaeth yn bryderus neu’n bryderus iawn ynghylch eu gallu i barhau i gyflenwi gwasanaethau os na cheir unrhyw gynnydd yn y Grant Cymorth Tai
- Mae tua 29% o staff a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn cael tâl sy’n is na’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd a’r Cyflog Byw Go Iawn
- Dywedodd un darparwr cymorth wrthym y bydd yn costio £500,000 yn ychwanegol iddynt dalu staff ar raddfa’r Cyflog Byw Go Iawn yn 2023/24 Dywedodd un arall y byddai’n costio dros £1 miliwn iddynt
- Mae 18% o weithwyr rheng flaen yn cael anhawster i dalu eu rhent
- Mae 56% yn cael anhawster i dalu eu biliau
- Dywedodd 46% o’r gweithwyr rheng flaen y buom yn eu holi eu bod yn gwario 76–100% o’u cyflog ar gostau byw hanfodol; dywedodd nifer brawychus 14% – nad yw eu cyflog yn ddigon i dalu am y cyfan o’u costau byw
Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:
“Mae cyfle gan Lywodraeth Cymru i osgoi argyfwng yn y gwasanaethau digartrefedd trwy ddyrannu swm ychwanegol o £16.7 miliwn* i’r Grant Cymorth Tai yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru’n derbyn swm ychwanegol o £180 miliwn o Ddatganiad y Gwanwyn.
“Yr wythnos ddiwethaf, siaradais â darparwyr gwasanaeth a chomisiynwyr awdurdodau lleol, sy’n gorfod penderfynu pa wasanaethau i’w torri neu eu cau oherwydd diffyg cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er gwaetha’r ffaith fod y pwysau ar wasanaethau digartrefedd yn fwy nag erioed.
“Yn ogystal â hyn, amcangyfrifir fod 29% o weithwyr ym maes cymorth tai ar hyn o bryd yn derbyn tâl sy’n llai na’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, er gwaetha’r ffaith eu bod yn gwneud gwaith anhygoel o bwysig a medrus. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cynnal ei hymrwymiad i’r Cyflog Byw Go Iawn ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael yr arian mae arnynt ei angen er mwyn talu cyflog teg a chynnal gwasanaethau.”
*Mae hyn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan wasanaethau i’r digartref a chymorth tai y bydd cost eu cyflenwi’n codi o 10.1% yn 2023/24.