Skip to main content

Mar 2nd, 2023 | Newyddion Diweddaraf

Cymorth yn hynod siomedig gyda Chyllideb Derfynol 2023/24

Ar 28 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb derfynol am 2023/24. Roeddem yn hynod siomedig na chafwyd cynnydd yn y Grant Cymorth Tai.

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth sy’n dangos y canlynol:

  • Mae tua 29% o staff a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn cael tâl sy’n is na’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd a’r Cyflog Byw Go Iawn
  • Dywedodd un darparwr cymorth wrthym y bydd yn costio £500,000 yn ychwanegol iddynt dalu staff ar raddfa’r Cyflog Byw Go Iawn yn 2023/24 Dywedodd un arall y byddai’n costio dros £1 miliwn iddynt
  • Mae 93% o’r darparwyr gwasanaeth yn bryderus neu’n bryderus iawn ynghylch eu gallu i barhau i gyflenwi gwasanaethau os na cheir unrhyw gynnydd yn y Grant Cymorth Tai
  • Mae 18% o weithwyr rheng flaen yn cael anhawster i dalu eu rhent
  • Mae 56% yn cael anhawster i dalu eu biliau
  • Dywedodd 46% o’r gweithwyr rheng flaen y buom yn eu holi eu bod yn gwario 76–100% o’u cyflog ar gostau byw hanfodol; dywedodd nifer brawychus 14% – nad yw eu cyflog yn ddigon i dalu am y cyfan o’u costau byw

Mae datganiad ysgrifenedig y Gweinidog Cyllid yn cyfeirio at gynlluniau Llywodraeth y DU ynghylch Datganiad y Gwanwyn ar 15 Mawrth. Dywed y Gweinidog y bydd yn darparu diweddariad ar y rhagolygon ac unrhyw faterion ariannol canlyniadol i Gymru, yn dilyn Datganiad y Gwanwyn.

Ein barn ni yw bod yn rhaid i’r Grant Cymorth Tai dderbyn cynnydd o 10%, o leiaf, i alluogi gwasanaethau i barhau ar y capasiti cyfredol os bydd unrhyw faterion ariannol canlyniadol yn codi o Ddatganiad y Gwanwyn.

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:

“Rydym yn hynod siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r Grant Cymorth Tai yn ei chyllideb derfynol am 2023/24.

“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi darparu tystiolaeth sylweddol o’r argyfwng ariannol sy’n wynebu gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, yn cynnwys y bwlch rhwng y cyflogau cyfredol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, heb sôn am y Cyflog Byw Go Iawn.

“Mae gwasanaethau dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen, ac mae’r diffyg cyllid ychwanegol yn golygu y bydd rhai o bosib yn methu parhau i gyflenwi gwasanaethau, gyda’r posibilrwydd y bydd pobl sy’n cael profiad o ddigartrefedd, neu mewn perygl o hynny, yn cael eu gadael heb gymorth hanfodol.

“Pe bai unrhyw arian ychwanegol yn dod o Ddatganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU, rydym yn pwyso ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y Grant Cymorth Tai yn cael blaenoriaeth.”