Skip to main content

Sep 28th, 2022 | Newyddion Diweddaraf

Argyfwng costau byw yn gwthio gweithwyr rheng flaen hanfodol yn nes at y dibyn

Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Cymorth Cymru wedi tynnu sylw at effaith frawychus yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan dros 720 o weithwyr rheng flaen wedi amlygu’r pwysau ariannol anhygoel maent yn ei wynebu wrth ddarparu gofal allweddol i ddegau o filoedd o bobl ledled y wlad.

Er gwaetha’r ffaith eu bod yn cyflenwi gwasanaethau hanfodol wyneb-yn-wyneb yn ystod y pandemig, gan roi eu hiechyd eu hunain, eu teuluoedd a’u ffrindiau, mewn perygl,  mae adroddiad newydd – Anawsterau yn y Rheng Flaen – yn manylu ar y modd y mae cyflogau isel, ynghyd â rhenti uchel, costau ynni, a chostau tanwydd, yn rhoi pwysau aruthrol ar eu bywydau.

“Dwi ddim ond yn bodoli, nid yn byw, o fis i fis.”

“Mae gen i aelod o’r staff sydd wedi troi at waith rhyw i ddod â dau pen llinyn ynghyd. Ddylai pethau ddim bod fel hyn.”

“Rydyn ni’n llythrennol yn ddim ond un siec cyflog i ffwrdd o drychineb ariannol.”

“Dwi’n colli prydau bwyd.”

“Dwi’n gweithio rhwng 45–50 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac yn chwilio am ail swydd.”

Mewn arolwg o dros 650 o weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai, dangoswyd y canlynol:

  • Mae 70% wedi rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Mae 44% yn cael anhawster i dalu’r biliau
  • Mae 11% yn cael anhawster i dalu’r rhent
  • Mae 7% wedi dechrau defnyddio banciau bwyd

Gweithwyr yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta

Mae costau ynni eisoes yn achosi pryder mawr i’r rhan fwyaf o’r gweithwyr rheng flaen yng Nghymru, gydag 86% yn diffodd goleuadau neu offer trydanol i ymdopi â’r argyfwng costau byw, a 79% yn penderfynu peidio â gwresogi eu cartref. Yn ogystal, roedd 95% o’r rhai a ymatebodd yn ‘hynod bryderus’ neu’n ‘bryderus iawn’ ynghylch y cynnydd a ragwelir mewn costau ynni y mis Hydref hwn. Tra bod cynllun Llywodraeth y DU i rewi biliau ar £2,500 y flwyddyn yn golygu na fydd y codiad mor uchel ag y rhagwelid, mae’n parhau i fod yn gynnydd – cynnydd na fydd modd i lawer o weithwyr rheng flaen ei fforddio.

“Dwi’n bwyta llai er mwyn cael arian i dalu biliau a chostau tanwydd.”

“Dwi nawr yn gweithio gyda phobl sy’n gorfod penderfynu p’un ai i fwyta neu i wresogi’r cartref, ac rydw innau’n eistedd yno yn meddwl yr un peth yn union.”

“Dwi’n gwisgo dillad tamp i arbed gwresogi.”

Costau tanwydd yn gadael gweithwyr ar eu colled

Mae pris petrol hefyd yn rhoi pwysau trwm iawn ar weithwyr sy’n dibynnu ar y car ar gyfer eu gwaith, gan eu bod yn teithio i weld nifer o gleientiaid bob dydd mewn sawl lleoliad gwahanol. Dywedodd nifer anhygoel o fawr – 89% – o’r rhai a holwyd fod y cynnydd mewn costau tanwydd yn gysylltiedig â’u gwaith yn rhoi pwysau ar eu sefyllfa ariannol bersonol. Roeddynt hefyd yn amlygu’r modd roedd hyn yn effeithio ar gyflenwi gwasanaeth, gyda llawer o weithwyr yn methu fforddio ymweld â’r bobl maent yn eu cefnogi mor aml ag y byddent yn dymuno, gydag eraill yn dweud na allant gymryd shifftiau ychwanegol oherwydd y byddai hyn yn arwain at wario mwy ar danwydd.

“Mae costau tanwydd yn cael effaith ar y staff cymorth; dyw’r [lwfans o] 45c ddim yn talu’r costau.”

“Dwi’n gorfod gwrthod ceisiadau am ymweliadau ychwanegol, ynghyd â gwrthod shifftiau y mae gwir angen i rywun eu gwneud.”

Galwad ar i Lywodraethau’r DU a Chymru weithredu

Mae Cymorth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyflogau, costau ynni, a chostau tanwydd. Fel arall, rydym mewn perygl o wthio’r gweithwyr hanfodol hyn ymhellach i mewn i dlodi, a cholli pobl o’r hyn sydd eisoes yn weithlu heb ddigon o staff.

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllideb y Grant Cymorth Tai am 2023/24 fel bod gweithwyr cymorth yn y sector digartrefedd a chymorth tai yn cael codiad cyflog i’w helpu i ymdopi â’r pwysau a achosir gan gynnydd mewn costau byw.
  2. Dylai Llywodraeth y DU weithredu ymhellach i dorri prisiau ynni a darparu cymorth ariannol i helpu pobl i ymdopi â chostau ynni yn awr ac yn y dyfodol.
  3. Dylai CthEM/HMRC gynyddu’r gyfradd yn ôl y filltir i sicrhau nad yw gweithwyr rheng flaen ar eu colled o ganlyniad i ddefnyddio’u car i ymgymryd â dyletswyddau’n gysylltiedig â’u gwaith.

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:

“Mae’n dorcalonnus i glywed am effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai ledled Cymru. Maent wedi treulio blynyddoedd yn helpu pobl allan o ddigartrefedd, ond nawr rhaid iddynt hwythau wynebu cwestiynau tebyg ynghylch a allant fforddio gwresogi neu fwyta – ac mae rhai’n wynebu’r perygl go iawn y byddant hwy eu hunain yn cael eu gwthio’n agosach at fod yn ddigartref.

“Mae ein hymchwil yn amlygu’r pwysau sydd wedi bod arnynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â’u  pryder a’u gofid ynghylch beth allai ddigwydd yn y dyfodol.

“Mae’n bryd i’r ddwy lywodraeth weithredu; i Lywodraeth Cymru ariannu codiad yng nghyflogau’r gweithlu hanfodol hwn, ac i Lywodraeth y DU weithredu ymhellach i dorri prisiau ynni, gwella cymorth ariannol a chodi’r lwfans milltiroedd fel nad yw gweithwyr cymorth ar eu colled am ddim rheswm ond gwneud eu gwaith.”

DIWEDD

Nodiadau:

‘Anawsterau yn y Rheng Flaen: Effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr cymorth rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru’ – gellir lawrlwytho’r ddogfen hon yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan dros 700 o weithwyr rheng flaen, yn cynnwys y canlynol:

  • ymatebodd 656 o weithwyr rheng flaen yn y sector digartrefedd a chymorth tai i’r arolwg a gynhaliwyd ym Mehefin a Gorffennaf 2022.
  • bu 68 o bobl yn mynychu cyfarfodydd ar-lein o Rwydwaith Rheng Flaen Cymru a chymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch costau byw.

Cymorth Cymru yw’r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Mae ein haelodau’n darparu ystod eang o wasanaethau sy’n helpu pobl i ymdopi â chyfnodau anodd, ailadeiladu eu hyder, a byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru’n cael ei gyflenwi gan Cymorth Cymru mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Rheng Flaen St Martin. Y nod yw rhoi i staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl sy’n cael profiad o ddigartrefedd yn y sectorau gwirfoddol, statudol a chyhoeddus, a’r rhai mewn swyddi cymorth tai yng Nghymru, gyfle i rannu eu barn a’u profiadau, i godi eu llais ac i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

Mae’r Rhwydwaith Rheng Flaen yn gweithio ar lefel genedlaethol a lefel leol ledled y DU i gefnogi a grymuso staff rheng flaen sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, statudol a gwirfoddol gyda phobl sy’n cael profiad o ddigartrefedd.