Skip to main content

Feb 3rd, 2023 | Newyddion Diweddaraf

Newydd: Fframwaith Canlyniadau’r Grant Cymorth Tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen newydd, sef Fframwaith Canlyniadau’r Grant Cymorth Tai.

Gellir gweld Fframwaith Canlyniadau’r Grant Cymorth Tai yma.

Gweithredir y Fframwaith newydd o 1 Ebrill 2023, a bydd y cyfnodau i adrodd data yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, yn unol â’r dull cyfredol, fel y dangosir isod:

Outcome Period Dates Covered Deadline for submission to WG
Period 1 1st April to 30th September 2023 30th November 2023
Period 2 1st October to 31st March 2024 31st May 2024

 

Crynodeb o’r adborth ymgysylltu

Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno diolch i’r rhai hynny a fynychodd eu digwyddiadau ymgysylltu yr hydref diwethaf i drafod y cynigion ar gyfer y Fframwaith Canlyniadau newydd. Roedd 190 o bobl wedi mynychu’r digwyddiadau hyn – yn cynnwys digwyddiad rhwydwaith Rheng Flaen a drefnwyd gan Cymorth Cymru – a bu’r adborth yn amhrisiadwy i helpu Llywodraeth Cymru i fireinio’r fframwaith a sicrhau ei fod yn ateb y galw.

I rai sydd â diddordeb, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r adborth ymgysylltu, a’r camau a gymerwyd gennym i fynd i’r afael â’r adborth. I’r rhai hynny ohonoch a fethodd fynychu’r digwyddiadau ymgysylltu, mae’r crynodeb hwn yn cynnwys y cefndir i’r modd y cafodd y Fframwaith Canlyniadau’r Grant Cymorth Tai newydd ei ddatblygu, ac efallai y bydd o ddefnydd i chi.

Canllaw a phecyn monitro data

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio’r Ffamwaith Canlyniadau, ac i gyd-fynd â hwn mae pecyn monitro dychwelyd data Fframwaith Canlyniadau’r Grant Cymorth Tai (mewn fformat Excel):

Pecyn hyfforddi ar gyfer dechreuwyr newydd

Yn dilyn cynnal pedair sesiwn hyfforddi ar-lein ar gyfer darparwyr gwasanaeth a chomisiynwyr y Grant Cymorth Tai, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn hyfforddi ar gyfer dechreuwyr newydd.

Enghraifft o Gynllun Cefnogi – YMCA Caerdydd

Yn y digwyddiadau hyfforddi diweddar ar Ganlyniadau’r Grant Cymorth Tai, bu Rhiannon White, Rheolwr Gwasanaethau Cymorth YMCA Caerdydd, yn amlinellu profiad ei sefydliad hi o beilota’r Canlyniadau Grant Cymorth Tai newydd. Tynnodd Rhiannon sylw at yr addasiadau a wnaed ganddynt i’w cynlluniau cefnogi, i sicrhau eu bod yn unol â’r Canlyniadau GCT/HSG newydd, a gofynnodd llawer o bobl am i’r ddogfen hon gael ei rhannu. Mae Rhiannon, yn garedig iawn, wedi anfon cynllun cefnogi YMCA Caerdydd atom, fel y gall darparwyr eraill lawrlwytho copi a’i ddefnyddio i’w helpu i addasu eu cynlluniau cefnogi eu hunain.

Gallwch lawrlwytho cynllun cefnogi Grant Cymorth Tai YMCA Caerdydd here.