Dengys data newydd a gasglwyd gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru effaith rhewi cyllid Llywodraeth Cymru mewn blynyddoedd olynol ar gyflogau gweithwyr digartrefedd a chymorth tai hanfodol yng Nghymru. Mae’r sefydliadau hyn, sy’n cynrychioli dros 100 o ddarparwyr cymorth, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, gan ei annog i ddarparu cyllid ychwanegol yn y gyllideb derfynol i gyflawni’r addewid i dalu cyflog teg i’r gweithwyr allweddol hyn.
Er addewidion a wnaed ar y Cyflog Byw Gwirioneddol yn yr etholiadau diwethaf i’r Senedd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i’r sector digartrefedd a chymorth tai i gynyddu cyflogau a gwireddu hyn.
Cafodd y Grant Cymorth Tai, sy’n ariannu mwyafrif helaeth gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru, ei rewi ers 2021 gan olygu bod cyflogau gweithwyr rheng-flaen wedi gostwng yn is na’r isafswm cyflog arfaethedig. Y gweithwyr rheng-flaen hyn yw’r union bobl sy’n cefnogi eraill yn ystod argyfyngau difrifol, tebyg i ddigartrefedd, cam-drin domestig, iechyd meddwl a phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau.
Dengys data a gasglwyd ym mis Rhagfyr 2023 ar gyflogau mwy na 3,000 o weithwyr a ariennir gan y Grant Cymorth Tai bod:
- 41% yn cael tâl is na’r isafswm cyflog arfaethedig (Ebrill 2024) o £11.44 ar hyn o bryd;
- 67% yn cael tâl is na Chyflog Byw Gwirioneddol 2023/24 o £12.00 yr awr ar hyn o bryd.
Dywedodd un darparydd gwasanaeth y byddai cynyddu’r cyflogau i ofyniad cyfreithiol yr isafswm cyflog cenedlaethol ym mis Ebrill yn costio mwy na £560,000 iddynt, tra byddai codi cyflogau i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn costio mwy na £1.1m. Nid yw Cyllideb Ddrafft 2024/25 Llywodraeth Cymru yn cynnwys unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai, gan wneud hyn yn dasg bron yn amhosibl i ddarparwyr cymorth.
Dangosodd arolwg o fwy na 600 o weithwyr cymorth rheng-flaen a gynhaliwyd y llynedd hefyd sut oeddent yn ei chael yn anodd i ddod â deupen llinyn ynghyd:
- 86% yn dweud nad oeddent yn rhoi’r gwres ymlaen er mwyn arbed arian;
- 56% yn cael trafferth i dalu biliau;
- 18% yn cael trafferth i dalu eu rhent;
- 12% yn teimlo mewn mwy o risg o fod yn ddigartref.
Daw’r pryderon hyn am dâl gweithwyr rheng flaen ar ben data a gyhoeddwyd yn flaenorol, sy’n dangos fod cyllideb arian-gwastad ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn debygol o arwain at:
- 77% o ddarparwyr gwasanaeth yn gostwng capasiti gwasanaeth;
- 40% o ddarparwyr gwasanaeth yn cyflwyno contractau presennol yn ôl;
- 67% o ddarparwyr gwasanaeth ddim yn cynnig ar gyfer contractau newydd neu gontractau wedi eu hail-dendro.
Mae hyn yn golygu y bydd gwasanaethau cymorth tai yn gostwng neu’n cael eu dileu yn gyfan gwbl ar adeg pan fo mwy o alw amdanynt nag erioed.
Ar gyfer 2024/25, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn unol â chwyddiant i alluogi gweithwyr rheng flaen i gael cyflog teg ac osgoi llawer o wasanaethau rhag chwalu. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn amcangyfrif fod angen cynnydd o 10%, sy’n gyfwerth â £16.7m.
Dywedodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru:
“Roedd gwaith teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol wrth galon maniffesto etholiad a Rhaglen Lywodraeth Llafur Cymru, a chawsom addewid y byddai gweithwyr digartrefedd a chymorth tai yn cael eu cynnwys yn yr ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol.
“Ers hynny nid yw’r sector wedi derbyn ceiniog yn fwy mewn cyllid i gyflawni’r addewid yma. Mae’n annerbyniol fod gweithwyr sy’n gwneud swyddi mor fedrus, cymhleth a thrawmatig yn cael tâl mor isel, ac mae’n annioddefol fod yr union bobl sydd â’r dasg o atal digartrefedd yn cael eu gwthio’n agosach at ddigartrefedd a thlodi eu hunain.
“Rydym yn annog Prif Weinidog a Gweinidog Cyllid Cymru i gynyddu’r gyllideb Grant Cymorth Tai a chyflawni’r addewid i dalu cyflog teg i’r gweithwyr hollbwysig hyn am eu gwaith sy’n newid bywydau, ac yn aml yn achub bywydau.
Dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae’r argyfwng tai eisoes yn gwthio mwy a mwy o bobl tuag at ddigartrefedd. Mae’n hollol annerbyniol gweld yr union bobl sydd wedi ymroi eu gyrfaoedd i ddarparu’r help newid bywyd mae eraill ei angen mewn angen o galedi sylweddol eu hunain.
“Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn golygu mynd i’r afael â’i achosion cymhleth, gan ymyrryd yn gynnar gyda’r gefnogaeth gywir. Mae gan y staff rheng-flaen sy’n gweithio yng ngwasanaethau digartrefedd a chymorth tai Cymru gyfuniad unigryw o sgiliau, profiad a chydymdeimlad sydd ei angen i wneud hyn, ac maent yn haeddu tâl teg.
“Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru. Ond i wneud hynny mae angen gwarchod a buddsoddi yn y staff diwyd sy’n darparu gwasanaeth sy’n newid bywydau bob dydd mewn cymunedau ar draws Cymru.”