Mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau diweddaraf Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol yng Nghymru.
Mae data a gasglwyd gan bymtheg o brosiectau Tai yn Gyntaf rhwng Chwefror 2018 a Mawrth 2023 yn dangos bod 792 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru, mae 380 o bobl wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf, ac mae 91.5% yn cynnal eu tenantiaeth.
Ystadegau allweddol:
- 17 Nifer y prosiectau Tai yn Gyntaf sy’n gweithredu dros 17 o awdurdodau lleol
- 792 Nifer y bobl a gefnogwyd gan brosiectau Tai yn Gyntaf ers mis Chwefror 2018
- 380 Nifer y bobl sydd wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf ers mis Chwefror 2018
- 335 Nifer y bobl oedd yn cynnal eu tenantiaethau Tai yn Gyntaf ar 31 Mawrth 2023
- 91.5% Y gyfradd cynnal tenantiaeth ar draws holl brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru
- 78 Nifer y bobl mewn llety dros dro oedd yn aros am denantiaeth TyG ar 31 Mawrth 2023
- 3 Nifer y prosiectau sydd wedi ennill Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru
Beth yw Tai yn Gyntaf?
Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o roi terfyn ar ddigartrefedd trwy ganolbwyntio ar adferiad; mae’n ffocysu ar symud pobl ddigartref yn gyflym i mewn i gartref annibynnol, sefydlog, yn hytrach na mynnu bod pobl yn aros am amser hir mewn llety dros dro i brofi eu bod yn ‘barod am dŷ’. Darperir cymorth dwys, aml-asiantaeth, heb unrhyw ragamodau na ffiniau amser.
Yn draddodiadol, mae’r model wedi ei dargedu at bobl sy’n cysgu ar y stryd neu mewn llety hynod ymylol, a chanddynt anghenion cymorth cronig a chymhleth. Datblygwyd y model yn Efrog Newydd yn yr 1990au, yn bennaf gan y seicolegydd cymuned Sam Tsemberis, ac ers hynny mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod Tai yn Gyntaf yn tueddu i gyflawni cyfradd cynnal tenantiaeth o 80–90%.