Amdanom Ni

Male and female volunteers

Cymorth Cymru yw’r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Rydym yn gweithredu fel llais i’r sector, gan ddylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisi, deddfwriaeth ac
arferion sy’n effeithio ar ein haelodau a’r bobl y maent yn eu cefnogi.

Rydym yn awyddus i fod yn rhan o fudiad cymdeithasol sy’n rhoi terfyn ar ddigartrefedd a chreu Cymru lle gall pawb fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a ffynnu yn eu cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, ein haelodau a’n partneriaid, i greu newid. Gyda’n gilydd, credwn y gallwn
gael mwy o effaith ar fywydau pobl.

Ein Gweledigaeth:

Cymru lle gall pawb fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gwireddu eu dyheadau, a ffynnu yn eu cymunedau.

Ein Cenhadaeth:

Cysylltu, cryfhau, ysbrydoli a dylanwadu ar ddarparwyr gwasanaethau, llunwyr polisi a phartneriaid i:

  • Atal digartrefedd
  • Cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain
  • Galluogi pobl i wireddu eu dyheadau a ffynnu yn eu cymunedau

Gallwch lawrlwytho ein cynllun strategol yma.

Female smiling in a meeting

Ein haelodau

Rydym yn falch iawn o gynrychioli dros 80 o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparwyr cymorth yn y trydydd sector, cymdeithasau tai a thimau awdurdodau lleol.

Mae ein haelodau’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n cefnogi pobl i oresgyn cyfnodau anodd, i adfer eu hyder ac i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cynnwys pobl sy’n ddigartref
neu mewn perygl o fod felly; pobl ifanc a rhai sy’n gadael gofal; pobl hŷn; pobl sy’n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol; pobl sy’n byw gydag anabledd dysgu; pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl; pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau; a llawer mwy.

Dysgwch fwy am ein haelodau drwy glicio ar eu logos isod.
Os hoffech chi ymuno â Cymorth, cysylltwch â ni.

Ein pobl

Caiff Cymorth Cymru ei redeg gan dîm bach o bobl sy’n frwd dros roi diwedd ar ddigartrefedd ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pobl fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.

Mae ein Bwrdd yn cynnwys ymddiriedolwyr o’n sefydliadau sy’n aelodau ac
ymddiriedolwyr annibynnol, y mae pob un ohonynt yn cael eu hethol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Y Bwrdd sy’n gyfrifol am bennu strategaeth Cymorth, rheoli ein hadnoddau’n gyfrifol a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n dogfen lywodraethu a’r gyfraith.

Ein Hymddiriedolwyr:

  • Sam Austin, Cadeirydd y Bwrdd (Llamau)
  • Mohit Dar, Trysorydd (Independent trustee)
  • Sian Aldridge (The Wallich)
  • Caroline Davies (Hafod)
  • Catherine Docherty (Salvation Army)
  • Lynne Evans (North Wales Housing)
  • Russ Kennedy (Dimensions Cymru)
  • Nancy Lidubwi (Bawso)
  • Phil Richardson (Platfform)

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Noder: Nid yw Cymorth Cymru yn darparu cyngor na chymorth, ond dyma rai dolenni defnyddiol i
sefydliadau a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, neu os ydych yn wynebu heriau eraill yn eich bywyd.

Contact Us