Skip to main content

Oct 7th, 2022 | Newyddion Diweddaraf

Canllawiau newydd: Ymestyn trwyddedau a gwaharddiadau dros dro

Mae’n bleser gennym ddarparu diweddariad i’r canllawiau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y buom yn eu datblygu mewn partneriaeth gyda Phrosiect Rhwydweithiau Tai yr awdurdodau lleol a Chynghorau Iechyd Cymuned (CIC).

Cefndir

Cyn yr haf buom yn cynnal trafodaethau gyda’n Grŵp Rhentu Cartrefi: Llety â Cymorth ynghylch sut i reoli gwaharddiadau dros dro ac ymestyn trwyddedau. Mynegwyd pryderon ynghylch diffyg canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymestyn trwyddedau, a chodwyd cwestiynau hefyd ynghylch y broses i reoli gwaharddiadau dros dro. O ganlyniad, roeddem wedi ymrwymo i ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen bychan gyda’r Rhwydwaith Cymorth Tai a datblygu rhai canllawiau gweithredol ar gyfer y sector.

Diweddariad

I ddechrau, hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r darparwyr llety â chymorth a’r awdurdodau lleol a ymunodd â’r grŵp gorchwyl a gorffen – roeddem yn wir yn gwerthfawrogi eich arbenigedd a’ch mewnbwn. Gyda’n gilydd, fe ddatblygon ni ddau ddarn o ganllawiau gweithredol a’u rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn amlygu’r angen ar i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad ar yr amgylchiadau lle gellid ymestyn trwydded. O ganlyniad, cytunodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi eu canllawiau polisi ar y mater hwn – rhywbeth rydym yn ei groesawu’n fawr.

O ganlyniad, gallwn yn awr rannu’r canlynol gyda chi: