Skip to main content

Jul 20th, 2022 | Newyddion Diweddaraf

Cymru’n cyflawni 90% o gynnal tenantiaethau drwy Tai yn Gyntaf, model a gymeradwyir yn rhyngwladol

Heddiw, mae Cymorth Cymru wedi cyhoeddi’r ystadegau cyntaf erioed ar brosiect Tai yn Gyntaf Cymru, gan arddangos graddfa ac effaith y model a gymeradwyir yn rhyngwladol ar leihau’r achosion o ddigartrefedd ar draws pymtheg o awdurdodau lleol.

Mae data a gasglwyd gan bymtheg o brosiectau Tai yn Gyntaf rhwng Chwefror 2018 a Medi 2021 yn dangos bod 521 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru, mae 245 o bobl wedi dechrau tenantiaethau Tai yn Gyntaf, ac mae 90% yn cynnal eu tenantiaeth.

Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o roi terfyn ar ddigartrefedd trwy ganolbwyntio ar adferiad; mae’n ffocysu ar symud pobl ddigartref yn gyflym i mewn i gartref annibynnol, sefydlog, yn hytrach na mynnu bod pobl yn aros am amser hir mewn llety dros dro i brofi eu bod yn ‘barod am dŷ’. Darperir cymorth dwys, aml-asiantaeth, heb unrhyw ragamodau na ffiniau amser.

Yn draddodiadol, mae’r model wedi ei dargedu at bobl sy’n cysgu ar y stryd neu mewn llety hynod ymylol, a chanddynt anghenion cymorth cronig a chymhleth. Datblygwyd y model yn Efrog Newydd yn yr 1990au, yn bennaf gan y seicolegydd cymuned Sam Tsemberis, ac ers hynny mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod Tai yn Gyntaf yn tueddu i gyflawni cyfradd cynnal tenantiaeth o 80–90%.

Yn 2018, nododd Llywodraeth Cymru fod Tai yn Gyntaf yn ymyriad allweddol i leihau’r achosion o gysgu ar y stryd, a darparwyd arian i sefydlu nifer o brosiectau yng Nghymru. Roedd cynllun y llynedd, Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu, yn ymrwymo i ehangu’r model ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru, gan bwysleisio pa mor bwysig yw bod yn gwbl driw i’r model, a sicrhau bod prosiectau Tai yn Gyntaf yn cael eu cyflenwi’n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru.

Yn sgil yr ymrwymiad tymor-hir hwn i Tai yn Gyntaf, mae Cymorth Cymru – sy’n cydlynu Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru – wedi dechrau casglu data ar ei raddfa a’i effaith.

Ystadegau allweddol:

  • Mae 15 o brosiectau Tai yn Gyntaf yn cael eu cyflenwi ar draws 15 o awdurdodau lleol
  • Mae 521 o bobl wedi cael cymorth gan brosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru rhwng 1 Chwefror 2018 a 30 Medi 2021. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n ymgysylltu â Tai yn Gyntaf trwy allgymorth grymusol a chymorth cyn-denantiaeth, yn ogystal â phobl sy’n cael eu cefnogi mewn tenantiaeth Tai yn Gyntaf.
  • Roedd 245 o bobl wedi dechrau fel tenantiaid Tai yn Gyntaf rhwng 1 Chwefror 2018 a 30 Medi 2021
  • Roedd 221 o bobl yn cynnal eu tenantiaeth ar 30 Medi 2021 – cyfradd cynnal tenantiaeth o 90%

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd:

“Mae pawb yn haeddu mynediad at gartref o ansawdd da, sy’n fforddiadwy a sefydlog, felly rwyf wrth fy modd yn gweld y llwyddiant mae Tai yn Gyntaf – a dargedir at bobl a chanddynt yr anghenion mwyaf cymhleth – yn ei gael fel rhan o’n symudiad tuag at ddull o ailgartrefu cyflym.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir na fydd unrhyw symudiad yn ôl at yr agwedd cyn-bandemig at ddigartrefedd. Mae Tai yn Gyntaf yn elfen allweddol o’n huchelgais i sicrhau bod digartrefedd yn dod yn rhywbeth prin a byrhoedlog yng Nghymru, ac na chaiff ei ailadrodd.

“Hoffwn ddiolch i’r bobl hynny sy’n amlwg wedi gweithio’n galed iawn i addasu’r model. Mae’r raddfa cynnal tenantiaeth o 90% hyd yn oed yn well nag yr oeddem wedi’i obeithio pan ddechreuon ni ar ein taith Tai yn Gyntaf yng Nghymru.”

Dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru:

“Mae Tai yn Gyntaf yn fodel sydd wedi ei brofi’n rhyngwladol, ac mae’n wych ei weld yn gweithio mor effeithiol yma yng Nghymru. Rhaid rhoi clod i’r darparwyr cymorth, awdurdodau lleol, landlordiaid a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi coleddu’r model hwn a gweithio’n anhygoel o galed i gyflenwi Tai yn Gyntaf yn unol â’r egwyddorion.

“Mae’n amlwg bod Tai yn Gyntaf yn cael effaith sylweddol ar ddigartrefedd, a bydd o fudd mawr i nifer o wasanaethau cyhoeddus eraill. Gyda llawer o bobl mewn llety dros dro, ac arnynt angen y math yma o gymorth, gobeithiwn y bydd yr ystadegau hyn yn annog yr holl randdeiliaid i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r dasg o ymestyn Tai yn Gyntaf ledled Cymru.”

Dywedodd Alex Osmond, Rheolwr Tai yn Gyntaf Cymorth Cymru:

“Gan fy mod wedi gweithio gyda’r prosiectau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwn yn iawn pa mor galed mae’r staff yn gweithio er mwyn darparu cymorth o ansawdd uchel a chyflenwi’r model yn unol â’r egwyddorion.

“Rwyf wrth fy modd yn gweld data sy’n dangos effaith eu hymdrechion, ac sy’n rhoi neges glir i brosiectau yn y dyfodol bod cyflenwi Tai yn Gyntaf yn unol â’r egwyddorion yn greiddiol i’w lwyddiant.”

DIWEDD

Nodiadau:

Am yr ystadegau

Gellir lawrlwytho’r set gyfan o ystadegau yma a chânt eu cyhoeddi mewn perthynas â chynhadledd Tai yn Gyntaf Cymorth Cymru a gynhelir ar-lein ar 20 Gorffennaf.

Mae’r data’n cyfeirio at y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2018, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ei ganllaw Tai yn Gyntaf, a 30 Medi 2021. Cesglir data pellach ar drefniant 6-misol.

Cysylltodd Cymorth Cymru â phrosiectau Tai yn Gyntaf – oedd yn cael eu hadnabod drwy eu hymgysylltiad â Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru – a gofynnwyd iddynt gyflwyno data oedd yn gysylltiedig â’u prosiect. Gofynnwyd hefyd iddynt gadarnhau bod eu prosiectau’n cael eu cyflenwi’n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru (gweler isod).

Am Cymorth Cymru a’r Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru

Cymorth Cymru yw’r corff cynrychioli ar gyfer darparwyr gwasanaethau ym maes digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru.

Cymorth Cymru sy’n gyfrifol am redeg Rhwydwaith Tai yn Gyntaf Cymru, sef grŵp eang o unigolion a sefydliadau a chanddynt ddiddordeb mewn datblygu Tai yn Gyntaf a’i weithredu ledled Cymru. Gyda chynrychiolaeth o’r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, byrddau iechyd a mwy, mae’n cefnogi datblygiad polisi ac ymarfer gorau. 

Egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru

  1. Mae gan bobl hawl i gael cartref sy’n fforddiadwy, yn ddiogel, yn addas i fyw ynddo, yn ddigonol yn gorfforol ac yn ddiwylliannol, a lle mae gwasanaethau ar gael (yn unol â Chyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol). Dylai hefyd fod yn rhan o gymuned, nid o sefydliad.
  2. Mae’r elfen tai a’r elfen cymorth yn cael eu gwahanu.
  3. Mae’r gwasanaeth wedi ei dargedu at unigolion sy’n dangos patrwm cyson o ddatgysylltu â llety mewn hostel a/neu unigolion sy’n cysgu ar y stryd neu’n dewis Llety Brys Dros Nos (EOS) ar y pwynt lle caiff yr atgyfeiriad ei wneud.
  4. Caiff cymorth hyblyg ei ddarparu cyhyd ag y bo angen amdano.
  5. Defnyddir dull o ymgysylltiad gweithredol.
  6. Mae gan unigolion ddewis a rheolaeth.
  7. Defnyddir dull o leihau niwed yng nghyd-destun camddefnyddio sylweddau.
  8. Caiff y gwasanaeth ei gyflenwi mewn dull seicolegol-wybodus, trawma-wybodus a rhywedd-wybodus sy’n sensitif ac yn ymwybodol o nodweddion gwarchodedig.
  9. Caiff y gwasanaeth ei seilio ar gryfderau pobl, eu nodau a’u dyheadau, ac oherwydd hynny mae’n ymrwymo’n benodol i lwyth gwaith bychan.
  10. Caiff yr ystod ehangaf posibl o wasanaethau eu cynnwys o’r cychwyn cyntaf (iechyd, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, yr heddlu) fel bod modd i unigolion gael mynediad atynt os ydynt yn dymuno neu ag angen amdanynt.