Cynhadledd Tai yn Gyntaf Cymorth
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cynhadledd Tai yn Gyntaf Cymru nesaf ar 9 Awst, lle byddwn yn clywed gan ystod o siaradwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes. Byddwn yn cynnal ein cynhadledd yn gyfan gwbl ar-lein i fanteisio ar natur ryngwladol Tai yn Gyntaf, felly gallwch ddisgwyl clywed siaradwyr o wahanol rannau o’r byd yn ogystal â’r rhai sy’n nes adref.
Pleser yw cyhoeddi y bydd yr Athro Tim Aubry yn ymuno â ni o Ganada i siarad am yr ymchwil ddiweddaraf ar dai a chanlyniadau seicogymdeithasol ar gyfer tenantiaid Tai yn Gyntaf, o’i gymharu â dulliau traddodiadol o fynd i’r afael â digartrefedd a chymorth tai.
Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth gyfredol i chi ar ystadegau diweddaraf Tai yn Gyntaf ac achrediad prosiectau yn Nghymru.
Cofiwch sicrhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i dderbyn y newyddion diweddaraf am y digwyddiad hwn.
Mae’r tocynnau’n £50 +TAW i bob mynychwr o sefydliad sy’n aelod, a £70 +TAW i rai nad ydynt yn aelodau, ac maent ar gael yma: https://forms.office.com/e/z6bKGU9uES
Noddi
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni yn events@cymorthcymru.org.uk. Mae noddi yn cynnwys brandio, gwybodaeth a dolenni ar draws ein gwefan, llwyfan digwyddiad ar-lein, e-bostiadau, cyfryngau cymdeithasol, y rhaglen a mwy, yn ogystal â nifer cyfyngedig o lefydd am ddim i gynadleddwyr.