Symposiwm Digartrefedd 2023
Ymunwch â ni ar gyfer ein Symposiwm ar Ddigartrefedd blynyddol, lle byddwn yn rhannu’r dystiolaeth ddiweddaraf, datblygiadau polisi ac arfer da mewn atal a lleddfu digartrefedd.
Rydym yn gyffrous iawn wrth gyhoeddi ein cynhadledd wyneb-yn-wyneb gyntaf i’w chynnal ers y pandemig. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar 9 Tachwedd 2023 ar gyfer ein Symposiwm ar Ddigartrefedd yn y Deml Heddwch, Caerdydd.
Rydym wrth ein bodd fod Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cytuno i siarad yn y digwyddiad, a fydd hefyd yn cynnwys sesiynau ar bynciau allweddol megis diwygio deddfwriaethol, digartrefedd ac anabledd, safonau tai â chymorth, a chynhwysiant iechyd.
Lawrlwythwch y rhaglen yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly trefnwch eich tocyn heddiw!
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni yn events@cymorthcymru.org.uk. Mae noddi’n cynnwys brandio, gwybodaeth a dolenni ar draws ein gwefan, llwyfan digwyddiad ar-lein, e-bostiadau, cyfryngau cymdeithasol, rhaglen a mwy, yn ogystal â nifer cyfyngedig o lefydd am ddim i fynychwyr.