Uwchgynhadledd Iechyd Cynhwysiant 2025

Abstract image of an event setting

Dydd Iau 20 Mawrth | Holiday Inn, Caerdydd | In Person

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cymorth Cymru yn cynnal Uwchgynhadledd Iechyd Cynhwysiant ar 20 Mawrth 2025 yng Nghaerdydd.

Bydd y digwyddiad hwn yn ffocysu ar sut orau y gallwn gwrdd ag anghenion pobl sy’n cael profiad o anfanteision lluosog ac sydd, yn draddodiadol, yn ei chael yn anodd i sicrhau.  mynediad at wasanaethau meddygol; mae’r rhain yn cynnwys pobl sy’n ddigartref, pobl sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gweithwyr rhyw, a phobl o’r cymunedau Roma, Sipsi a Theithiol.

Bydd yr uwchgynhadledd yn darparu llwyfan i bobl a chanddynt brofiad bywyd, ynghyd â gweithwyr rheng flaen, a staff uwch sy’n gyfrifol am gymryd penderfyniadau o’r GIG, iechyd cyhoeddus a’r trydydd sector, i rannu eu syniadau a’u profiadau. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd, yn ogystal ag yn arddangos arfer da, gyda’r nod o wella bywydau a deilliannau iechyd pobl sy’n wynebu anfanteision lluosog.

Cofrestrwch yma.