Skip to main content

Jul 31st, 2022 | Newyddion Diweddaraf

Tai yn Gyntaf Ynys Môn yn ennill Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru

Tai yn Gyntaf Ynys Môn, dan arweiniad The Wallich, yw’r trydydd prosiect yng Nghymru i dderbyn Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru. Mae’r achrediad – a gyhoeddwyd yn ffurfiol gan Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, yn ystod Cynhadledd ddiweddar Tai yn Gyntaf Cymru – yn dilyn misoedd o graffu trwyadl i werthuso pa mor agos mae’r prosiect yn glynu at egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru.

Mae Tai yn Gyntaf yn ddull o roi terfyn ar ddigartrefedd trwy ganolbwyntio ar adferiad; mae’n ffocysu ar symud pobl ddigartref yn gyflym i mewn i gartref annibynnol, sefydlog, yn hytrach na mynnu bod pobl yn aros am amser hir mewn llety dros dro i brofi eu bod yn ‘barod am dŷ’. Darperir cymorth dwys, aml-asiantaeth, heb unrhyw ragamodau na ffiniau amser. Yn draddodiadol, mae’r model wedi cael ei dargedu at bobl sy’n cysgu ar y stryd neu mewn llety ymylol, a chanddynt anghenion cymorth cronig a chymhleth. Datblygwyd y model yn Efrog Newydd yn yr 1990au, yn bennaf gan y seicolegydd cymuned Sam Tsemberis, ac ers hynny mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Er mwyn cael cymaint o effaith ag sy’n bosibl, mae’n holl bwysig bod prosiectau sy’n eu galw eu hunain yn Tai yn Gyntaf, neu sy’n honni eu bod yn cyflenwi’r dull hwn, yn gwneud hynny’n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf. Datblygwyd Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru i werthuso a yw polisïau’n cael eu cyflenwi’n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf yng Nghymru ai peidio. Mae hi’n broses hynod drwyadl sy’n cynnwys craffu ar bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, a chynnal cyfweliadau gyda thenantiaid Tai yn Gyntaf, staff, comisiynwyr, landlordiaid a sefydliadau partner.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Tai yn Gyntaf Ynys Môn wedi arddel y broses hon ac ymateb yn hynod bositif i’r adroddiad argymhellion interim, gan ymrwymo i ddatblygiadau a gwelliannau pellach. Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol i banel o arbenigwyr annibynnol yn gynnar ym mis Gorffennaf; bu’r panel yn craffu’n ofalus ar y dystiolaeth, a daethpwyd i benderfyniad unfrydol i gyflwyno’r achrediad i’r prosiect hwn.

Mae’r adroddiad terfynol – sy’n manylu ar y broses, canfyddiadau, tystiolaeth ac argymhellion – ar gael i’w lawrlwytho yma.

Dywedodd Jo Parry, Rheolwr Prosiect Tai yn Gyntaf Ynys Môn:

“Rydyn ni ar ben ein digon wrth dderbyn achrediad Tai yn Gyntaf gan Cymorth Cymru.

“Mae tîm The Wallich wedi gweithio’n hynod galed i gyflenwi gwasanaeth gwirioneddol wych, un rydyn ni i gyd yn falch ohono, ac ni allem fod wedi llwyddo heb gefnogaeth pawb oedd yn chwarae rhan yn y gwaith. Moment y gallwn i gyd ymfalchïo ynddi.”

Dywedodd Alex Osmond, Rheolwr Tai yn Gyntaf a Phrofiad Byw Cymorth Cymru:

“Mae gweithio gyda thîm The Wallich yn Ynys Môn, ochr yn ochr â’u sefydliadau a’u cleientiaid partner, wedi bod yn brofiad rhagorol. Mae pawb sy’n chwarae rhan yn amlwg yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn cyflenwi model Tai yn Gyntaf effeithiol, yn unol â’r egwyddorion.

“Mae yna ddiwylliant o adlewyrchu ac addysgu ar draws y sefydliad, a disgwyliaf weld prosiect Ynys Môn yn parhau i ddatblygu ei gymorth dros amser. Roedd y prosiect yn llwyr deilyngu’r achrediad, a disgwyliaf y bydd y staff yn gweld y llwyddiant fel dechrau taith, ac nid y diwedd.”

Wrth siarad mewn cynhadledd Tai yn Gyntaf Cymorth Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar, dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd:

“Pleser o’r mwyaf i mi yw cyhoeddi mai’r trydydd prosiect i ennill achrediad Tai yn Gyntaf Cymru yw Tai yn Gyntaf Ynys Môn, dan arweiniad The Wallich ac mewn partneriaeth gyda Chyngor Môn, gwasanaethau iechyd lleol, cynrychiolwyr y gwasanaeth cyfiawnder troseddol, a nifer o landlordiaid preifat a chymdeithasol.

“Wedi’i sefydlu yn 2013, fel cynllun peilot i ddechrau, hwn yw’r prosiect Tai yn Gyntaf mwyaf hirhoedlog yng Nghymru; mae wedi rhoi cymorth i gannoedd o bobl sy’n cael profiad o ddigartrefedd, ac mae’n braf clywed bod hyn yn cael ei ddarparu’n unol ag egwyddorion Tai yn Gyntaf.

“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn clywed am y gwaith trylwyr a wnaed yn ystod y broses hon i wella a datblygu’r gwasanaeth. Llongyfarchiadau i Tai yn Gyntaf Ynys Môn ac i Jo Parry, y rheolwr gwasanaeth.”

Gallwch weld y cyhoeddiad yma: